trenarzh-CNnlitjarufacy

Transcribed from the 1902 Ab Owen edition ,

Public domain cover

J. Ceiriog Hughes.  Tynnwyd y darlun yn ei ardd yn Llandiloes, yn 1867.  [O’r “Oriel Gymreig.”]

Decorative graphic spelling Ceiriog

 

Decorative graphic

 

LLANUWCHLLYN, AB OWEN.
1902.

 

p. 2Argraffwyd i AbOwen gan Mri. Hughes a’i Fab,
Gwrecsam.

 

p.3Rhagymadrodd.

Ar un o lethrau’r Berwyn yganwyd ac y magwyd Ceiriog.  Gadawodd ei gartref anghysbella mynyddig pan yn fachgen; a’i hiraeth am fynyddoedd abugeiliaid bro ei febyd, tra ym mŵg a thwrw Manceinion,roddodd fod i’w gân pan ar ei thlysaf ac ar eithyneraf.

Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon DyffrynCeiriog, oedd John Ceiriog Hughes.  Ganwyd ef Medi 25ain,1832.  Aeth i’r ysgol yn Nant y Glog, ger yllan.  Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac ifugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, iswyddfa argraffydd.  Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; acyno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a chyfarfod llenyddol, a chwmnirhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau acalawon Cymru.

Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o’i gânfuddugol,—“Myfanwy Fychan,”—yn EisteddfodLlangollen, am y mynydd a’i gartref.  Yn 1860cyhoeddwyd ei “Oriau’r Hwyr;” daeth hwn arunwaith yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yngNghymru.  Yn 1861 p. 4priododd un o rianod gwladCeiriog.  Yn 1862 cyhoeddwyd ei “Oriau’rBore,” lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar eigrymusaf.  O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu. Y mae dros chwe chant o’i ganeuon wedi dod a llawenydd igalon miloedd o Gymry, ac ambell un ddeigryn i lawer llygad.

Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes.  Aethoddiyno i Dowyn yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiynoi Gaersws yn yr un flwyddyu.  Yno y bu farw, Ebrill 23ain,1887.  Treuliodd ei febyd, felly, yn Nyffryn Ceiriog, rhanganol ei oes ym Manceinion, a’r rhan olaf ym mlaen Dyffrynyr Hafren.

Trwy’r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at eigalon,—llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysgCymru.  Yr oedd yn hoff o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddogariad greddfol at y naturiol a’r cain.  Yr oedd eifryd ar ddi

...

BU KİTABI OKUMAK İÇİN ÜYE OLUN VEYA GİRİŞ YAPIN!


Sitemize Üyelik ÜCRETSİZDİR!