trenarzh-CNnlitjarufacy

Transcribed from the 1905 Ab Owen edition ,

GEIRIADUR
CYMRAEG A SAESNEG
BYR.

yn bennaf arsail
DICTIONARIUM BRITANNICO-LATINUM
Dr. John Davies o Fallwyd.

acar

“Y GYMRAEG YN EIDISGLEIRDEB”
Thomas Jones o’r Amwythig.

Llanuwchllyn, Ab Owen
Conwy, R. E. Jones a’iFrodyr.
1905.

p.iiiRhagymadrodd.

Amcan y Geiriadur hyr bwn yw rhoddi ychydig gymorth i efrydwyrCymraeg y canol oesoedd.  Denwyd fi at y gwaith, oherwyddnad oes Eiriadur hawdd ei gael i lenyddiaeth Cymreig y cyfnodrhwng Gruffydd ab Cynan a Beibl 1588.

Fy amcan cyntaf oedd cywiro a thalfyrru cyfieithiad ThomasJones o Dictionarium Britannico-Latinum Dr. Davies. Y Geiriadur Cymreig a Lladin a Lladin a Chymraeg hwn yw’rgoreu eto; ond y mae yn anghyflawn, ac nid yw yn hawdd i’wgael.  Ysgrifennodd y Dr. Davies ei ragymadrodd i’wEiriadur y dydd olaf o Fai, 1632.  Cyhoeddodd Thomas Jonesei gyfieithiad ohono yn 1688.

Drwy annog yr Athraw J. Morris Jones, penderfynais wneydychwaneg na chywiro a chrynhoi; gwnes y Geiriadur mor gyflawn agy gallwn drwy fy narllen fy hun, a chymorth Geiriadurondiweddarach.  Defnyddiais, yn enwedig,Archæologia Edward Lluyd, 1707; Geiriadur Dr. W.Owen Pughe, 1803, rhyfeddod o wybodaeth a llafur, er eiddamcaniaethau ofer a’i ddychmygion gwyllt; a Geiriaduranghyflawn fy hen athraw D. Silvan Evans, gyda’r hwn y bufarw yn 1903 gymaint o gof o bethau Cymreig.

p. ivMorbell ac y gallwn farnu,—oddiwrth lenyddiaeth, enwaulleoedd, a’r defnydd wneir ar lafar o eiriau’nawr,—yr oedd pob gair sydd yn y Geiriadur hwn ar arfer yn1588.  Felly nid yw’r llyfr bychan hwn yn rhoddicymorth i ddangos fel y tyfodd yr iaith er cyfnodcyfieithu’r Beibl.

Edrychodd yr Athraw J. Morris Jones drwy y rhan fwyafo’r proflenni.  Achubodd fi o amryw byllau,ychwanegodd rai geiriau, a bu ei gyngor yn dra gwerthfawr. Ond na ddalier ef yn gydgyfrifol am un gwall; gallai fod yn yllyfr wallau na welodd ef, a hwyrach na ddilynwyd ei gyngor bobamser.

Gwnes fy ngoreu, ond gwn fod y llyfr yn amherffaith.  Agaf fi ofyn i efrydwyr hanes a llenyddiaeth Cymru yn y canoloesoedd roddi prawf arno, a gwneyd rhestrau o eiriau adyfyniadau, fel y gallaf ei wella?

OWEN M. EDWARDS.

Coleg Lincoln, Rhydychen.
Ionawr 30, 1905.

p. vY WyddorGymraeg.

A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
S
T
Th
U
W
Y

p.viEnwau.

Adda, Adam.

Awstin, Augustine.

Buddug, Boudicca.

Caradog, Caratacus.

Dafydd, David.

Dewi, David.

Du, black.

Efa, Eve.

Emrys, Ambrose.

Ercwlf, Hercules.

Fychan (“small”), Vaughan.

Fferyll, Vergil, magician, chemist.

Ffraid, Bridget, Bride.

Ffwg, Foulk.

Gwilym, William.

Iago, James.

Ieuan, Ifan, John.

Io, Job.

Ioan, John.

Iwl, Julius.

Llwyd, brown.

Mair, Mary.

Mihangel, Michael.

Moesen, Moses.

No, Noe, Noah.

Pedr, Peter.

Rhosser, Roger.

Selyf, Solomon.

Siarlymaen, Charlemagne.

Siaspar, Jasper.

Sion, John.

Sior, George.

Suddas, Judas.<

...

BU KİTABI OKUMAK İÇİN ÜYE OLUN VEYA GİRİŞ YAPIN!


Sitemize Üyelik ÜCRETSİZDİR!